Pwy ydyn ni?

Staff

Pobl ifanc sydd wrth wraidd popeth yr ydym yn gwneud, ac yn sylfaen i’n gweledigaeth wrth symud ymlaen.

Mae gan ein haelodau ifanc llais, ac rydym yn gwrando arnynt. Maent yn trafod gyda staff a gwirfoddolwyr ac mae’r trafodaethau yma yn llywio popeth yr ydym yn gwneud yma yn YMCA Pen-y-bont.

Mae ein staff a gwirfoddolwyr yn rhoi anghenion plant a phobl ifanc yn gyntaf. Maen nhw’n cymryd yr amser i wrando. Maen nhw’n gefnogol ond yn heriol. Mae’n yn cynnig cred, gobaith a dyhead i’n hieuenctid.

Mae gan YMCA Pen-y-bont saith o ymddiriedolwyr ymroddedig a phrofiadol. Mae gennym hefyd tri aelod o staff llawn amser. Fel tîm, rydym yn angerddol am gryfhau a gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Rhyngom, mae gennym wledd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd gwahanol, ond yn bennaf rheini sydd dan anfantais, ag ymddygiad heriol, neu rheini sydd ag anghenion ychwanegol.


Reg Denley
Rheolwr

Cymhwyswyd Reg fel gweithiwr ieuenctid ym 1989 ac mae wedi gweithio rhan amser yn y maes ers dros 30 o flynyddoedd. Mae rhan fwyaf y Gwaith yma wedi ei gyflawni yn y sector statudol, ond mae ganddo hefyd dros 10 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gwirfoddol.

Cymhwyswyd ef fel gweithiwr cymdeithasol yn dilyn cyfnod o weithio o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Buodd yn rhan o dîm Triniaeth Ganolradd a gofal peripatetig.

Yn 2002, penodwyd fel Rheolwr Rhaglen ‘YouthWorks’ yng Nghymru ac mae ef wedi bod yn gyfrifol am ostyngiad sylweddol mewn troseddau ymhlith ieuenctid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Graddiodd Reg gyda BA Anrhydedd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned.

Yn rheolwr ar YMCA Pen-y-bont ers 2016, mae ein gwaith wedi trawsnewid dan ei arweinyddiaeth.


Lindsay Tyson
Swyddog Datblygu Ieuenctid

Mae gan Lindsay dros 20 mlynedd o brofiad o weithio dros blant a phobl ifanc. Mae wedi cymhwyso ym meysydd Gofal Plant, Gwaith Chwarae, Gwaith Ieuenctid ac Ysgolion y Goedwig.


Adina Jones

Cychwynnodd Adina gyda’r YMCA yn 2017 fel gwirfoddolwr. Ers hyn, mae wedi cwblhau prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes.
Mae wedi llwyddo sefydlu perthnasau cadarnhaol gyda phobl ifanc sydd ynghlwm a’n gwaith, ac o ganlyniad, wedi cael ei ysbrydoli i fynd ar ôl gyrfa yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae Adina ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gymhwyster gwaith chwarae a hefyd cymhwyster gwaith ieuenctid.


Jenna Mitchell

Kris Davies

Rhys Morgan

Emma Lewis

Gwirfoddolwyr

Volunteers, both adult and young people regularly give their time to support sessions and activities and help with administration. They help the YMCA to grow and develop.

X