Gall cefnogi gwaith YMCA Pen-y-bont i gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu helpu eich sefydliad mewn sawl ffordd.
Gall gysylltiad brand cadarnhaol fod yn fuddiol i’r YMCA ac i’ch sefydliad chi. Mae dod yn bartner â ni yn ffordd wych o ysgogi staff a’ch gosod ar wahân i eraill yn eich maes.
Mae hefyd yn gyfle i ddangos ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol tra hefyd yn cynnig cyfleoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Mae rhai sefydliadau yn dewis cefnogi YMCA Pen-y-bont trwy wneud cyfraniadau un-tro. Mae’r rhain yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn holl bwysig wrth geisio cyflawni ein nod.
I wneud cyfraniad, mynnwch sgwrs gyda Reg Denley.
Mae codi arian yn rhoi nod cyffredin i staff, tra hefyd yn cynyddu balchder ac ysbryd tîm. Gall ddigwyddiadau codi arian amrywio o ddiwrnod gwisg anffurfiol, i ddiwrnod golf, cinio neu arwerthiant.
Mae’r rhain yn ffyrdd gwych o gynnwys eich staff yn eich gweithgarwch elusennol. Dyma gyfleoedd adeiladu tîm all wneud gwahaniaeth go iawn.
Gall gweithio gyda YMCA Pen-y-bont fel eich Elusen y Flwyddyn cael effaith cadarnhaol hir dymor ar eich sefydliad.
Rydym yn croesawu cyfleoedd i drafod sut gallwn droi’r cyfle yma yn brofiad sydd o fudd i’ch sefydliad chi, a hefyd i’r YMCA.
Nid rhoddion ariannol yn unig sy’n gallu helpu gwaith y YMCA. Fe all sefydliadau cynnig rhoddion ‘mewn da’.
Gall y rhoddion yma amrywio o fwyd a diod ar gyfer clybiau wythnosol, neu offer ar gyfer ein darpariaethau ieuenctid. Gall rhoddion o’r fath elwa ein pobl ifanc yn fawr.
Mae cynnig gwobrau all cael ei ddefnyddio ar gyfer raffl neu gystadleuaeth hefyd yn ffordd dda o gefnogi. Gall rhoddion o’r fath ein helpu i godi symiau sylweddol o arian at ein hachos.
Gall sefydliadau elwa o gynllun Cymorth Rhodd, a derbyn rhyddhad treth ar unrhyw rodd I YMCA Pen-y-bont
Gallwch ddidynnu swm y cyfraniad o unrhyw elw cyn cyfrifo treth gorfforaethol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn golygu bod YMCA Pen-y-bont yn elwa’n llawn o’r rhodd.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyllid a Thollau EM, neu rhowch alwad i ni drafod ymhellach