Amdanom ni

Ein Hanes. Ein Dyfodol.

Mae gan y YMCA gwreiddiau dwfn ym Mhen-y-bont. Gyda phresenoldeb yn y dre ers 1897, cefnogodd ein cymuned trwy ddau ryfel byd a sawl cyfnod o ansicrwydd economaidd.

Yn fwy diweddar, adeiladau’r YMCA ar stryd yr Angel oedd lleoliad ein gwasanaeth. Codwyd yr adeiladau yma i ni ym 1961, a bu’n gartref inni am 58 o flynyddoedd wedi hynny.

Fe adawodd y 58 mlynedd yna eu marc ar yr adeilad. Doedden nhw ddim wedi heneiddio’n dda. Doedden nhw bellach ddim yn addas i ni yn yr oes fodern. Roedd yr adeiladau yn ein dal yn ôl, yn hytrach nag ein ymbweru i ymateb i anghenion cenhedlaeth ifanc ein tref.

Yn dilyn sawl blwyddyn o fyfyrio, penderfynwyd nad oedd hi’n bosib i ni barhau i weithredu o’r adeiladau yna. O Ebrill y 1af 2020 rydym wedi sefydlu canolfan gweinyddu ar Heol Goety. O’r canolfan yma, byddwn yn parhau i wasanaethu ein cymuned. Bydd ein gwasanaethau peripatetig nawr yn cefnogi pobl ledled y Sir.

Bydd ein model Newydd o weithredu yn ein galluogi i ganolbwyntio ar anghenion pobl ifanc ledled y Sir a darparu’r gwasanaethau ieuenctid a chymuned sydd yn Sylfaen i’n bodolaeth.

Bydd hefyd yn ein galluogi i gydweithio â phartneriaid a’r gymuned ehangach i ddatblygu cynllun i ddod â YMCA newydd, sy’n addas at y diben i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Ers ei sefydlu, mae YMCA Pen-y-bont ar Ogwr wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl Pen-y-bont ar Ogwr. Hir oes i hyn barhau.

 
X