Mae YMA Pen-y-bont yn creu cyfleoedd cyfannol fel ymateb i anghenion plant a phobl ifanc Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rhoddir pwyslais ar gymorth a chefnogaeth bydd yn trawsnewid bywydau'r unigolion sydd yn gysylltiedig â’n gwaith er mwyn eu galluogi i gyrraedd eu potensial lawn.
I ddarparu a chefnogi darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau addysg, chwarae, hamdden a gweithgareddau eraill er budd plant, pobl ifanc a theuluoedd Pen-y-bont.
Tyfwyd a datblygwyd ein darpariaeth fel ymateb i anghenion y gymuned rydym yn gwasanaethu. Rydym yn anelu i gefnogi pobl sy’n dioddef anawsterau o ganlyniad i’w sefyllfaoedd cymdeithasol neu economaidd.
Rydym am wella ansawdd bywyd ein haelodau trwy ddatblygu eu lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol, diwylliannol ac emosiynol.
Cynigir rhaglen lawn o weithgareddau trwy gydol yr haf. Cliciwch yma i weld / lawrlwytho’r Amserlen Gweithgareddau a cysylltwch â ni i gadw lle.